Polisi cwcis a phreifatrwydd

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn manylu ar sut mae Team Elite yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Mae Endgrain wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn ichi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod ohoni wrth ddefnyddio’r wefan hon, yna gallwch fod yn sicr y caiff hon ei defnyddio’n unol â’r datganiad preifatrwydd hwn yn unig.

Mae’n bosibl y bydd Endgrain yn newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech edrych ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i sicrhau eich bod yn hapus ag unrhyw newidiadau. Daeth y polisi hwn i rym ar 02/09/15.

Yr hyn rydym yn ei gasglu

Mae’n bosibl y byddwn yn casglu’r wybodaeth a ganlyn:

  • enw ac enw cwmni
  • gwybodaeth gyswllt, gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • gwybodaeth ddemograffig fel cod post, dewisiadau a diddordebau
  • gwybodaeth arall sy’n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion

Yr hyn rydym yn ei wneud â’r wybodaeth rydym yn ei chasglu

Mae angen yr wybodaeth hon arnom i ddeall eich anghenion a darparu gwasanaeth gwell ichi, ac yn enwedig am y rhesymau a ganlyn:

  • Ymateb i ymholiadau
  • Cadw cofnodion mewnol
  • Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i wella ein cynnyrch a’n gwasanaethau

Mae’n bosibl y byddwn yn anfon negeseuon e-bost o bryd i’w gilydd i hybu cynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall rydym o’r farn fyddai o ddiddordeb ichi, gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost rydych wedi’i ddarparu.

O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio’ch gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil i’r farchnad. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost, dros y ffôn, trwy ffacs neu drwy’r post. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i addasu’r wefan yn ôl eich diddordebau.

Diogelwch

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, rydym wedi rhoi gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i warchod a diogelu’r wybodaeth rydym yn ei chasglu ar-lein.

Sut rydym yn defnyddio cwcis

Ffeil fach yw cwci, sy’n gofyn am ganiatâd i’w gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur. Unwaith y byddwch wedi cytuno, caiff y ffeil ei hychwanegu ac mae’r cwci yn helpu i ddadansoddi traffig ar y we neu’n rhoi gwybod ichi pan fyddwch yn ymweld â gwefan benodol. Mae cwcis yn caniatáu cymwysiadau’r we i ymateb i chi fel unigolyn. Gall y cymhwysiad gwe deilwra ei weithrediadau yn unol â’ch anghenion, eich hoff bethau a’ch cas bethau trwy gasglu a chofio gwybodaeth am eich dewisiadau.

Rydym yn defnyddio cwcis cofnodi traffig i nodi’r tudalennau sy’n cael eu defnyddio. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am draffig ar dudalennau gwe a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra’n unol ag anghenion cwsmeriaid. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon at ddibenion dadansoddi ystadegol yn unig, ac yna caiff y data eu tynnu oddi ar y system.

At ei gilydd, mae cwcis yn ein helpu i ddarparu gwefan well ichi, trwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol ichi a pha rai sydd ddim yn ddefnyddiol. Nid yw cwci mewn unrhyw ffordd yn rhoi mynediad i ni i’ch cyfrifiadur nac unrhyw wybodaeth amdanoch, heblaw am y data rydych yn dewis eu rhannu â ni.

Gallwch chi ddewis derbyn neu wrthod cwcis. Mae’r mwyafrif o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn awtomatig, ond gallwch chi fel rheol addasu gosodiad eich porwr i wrthod cwcis os yw hynny’n well gennych chi. Mae’n bosibl y bydd hyn yn eich atal rhag manteisio’n llawn ar y wefan.

Dolenni i wefannau eraill

Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio’r dolenni hyn i adael ein gwefan, fe ddylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ymweld â gwefannau o’r fath, ac nid yw’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefannau o’r fath. Fe ddylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Rheoli’ch gwybodaeth bersonol

Efallai y byddwch yn dewis cyfyngu ar y wybodaeth bersonol a gesglir neu a ddefnyddir. Os ydych wedi cytuno i ni ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol o’r blaen, fe gewch newid eich meddwl unrhyw adeg trwy ysgrifennu neu anfon e-bost atom.

Ni fyddwn yn gwerthu, yn dosbarthu neu’n prydlesu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni bai eich bod wedi caniatáu i ni wneud hynny neu oni bai bod hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth atoch am drydydd partïon rydym o’r farn fyddai o ddiddordeb ichi o bosibl, os byddwch yn dweud wrthym eich bod yn dymuno i hyn ddigwydd.

Gallwch chi ofyn am fanylion yr wybodaeth bersonol rydym yn ei dal amdanoch dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Fe fydd yn rhaid talu ffi fach am hyn. Os hoffech gael copi o’r wybodaeth a ddelir amdanoch, yna ysgrifennwch at Team Elite.

Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth rydym yn ei dal amdanoch yn anghywir neu’n anghyflawn, yna ysgrifennwch neu anfonwch e-bost atom cyn gynted â phosibl, yn y cyfeiriad uchod. Fe fyddwn yn mynd ati’n ddi-oed i gywiro unrhyw wybodaeth y darganfyddir ei bod yn anghywir.