Crynodeb o’r Prosiect

'Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan ym Mhrosiect y Gadwyn Gyflenwi am eu holl gymorth caredig, eu gwybodaeth helaeth a’u buddsoddiad mewn amser. Rwy’n hynod ddiolchgar ichi.'
Dylan Jones

Y Prosiect Graen Pen

Bu’r Prosiect Graen Pen yn rhedeg rhwng mis Gorffennaf 2009 a mis Gorffennaf 2015. Roedd yn rhan o Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyd Gyflenwi, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru dan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru. Nod allweddol y prosiect oedd ychwanegu gwerth at bren Cymreig bach ei ddiamedr. Sut gellid ei drosi’n gynnyrch â gwerth ychwanegol a oedd yn defnyddio nodweddion unigryw pren graen pen?

Mae teils a choblau pren yn gallu sicrhau’r gwerth uchaf posibl o foncyffion bach eu diamedr sy’n deillio o waith teneuo cyntaf ac ail yng nghoetiroedd Cymru. Mae modd defnyddio’r mwyafrif o rywogaethau coed sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer teils a choblau. Gwnaethom ni gwblhau gwaith ymchwil a datblygu helaeth a, thrwy gydweithio â phartneriaid preifat, fe nodwyd gwendidau a thagfeydd. Dygwyd sylw at y rhain, ymchwiliwyd i ddatrysiadau a chryfhawyd y gadwyn gyflenwi o’r goeden trwodd i’r cynnyrch gorffenedig.

Partneriaid preifat y prosiect graen pen:

  1. John Price, Aberbechan – Perchennog coetir
  2. Heartwood Timber, Caersws – Contractwr coetir a phrosesydd pren
  3. Woods of Wales, y Trallwng – Gweithgynhyrchwyr lloriau pren

 

Fe dyfodd cwmpas y prosiect mewn ymateb i ddatblygiadau unigryw yn sgil yr ymchwil a gwblhawyd. Fe dderbyniodd y rheolwr prosiect yn Coed Cymru nifer o ymholiadau o du penseiri a dylunwyr a oedd yn edrych am deils neu goblau graen pen ar gyfer prosiectau preifat penodol. Datblygwyd cadwyni cyflenwi yma yng Nghymru mewn ymateb i’r ymholiadau hyn, a chyflawnwyd nifer o gontractau. Mae enghreifftiau o’r prosiectau hyn a gwblhawyd i’w gweld dan y pennawd Portffolio. Ymhlith yr allbynnau oedd:

  • Ymholiadau i’r prosiect ynglŷn â theils a choblau graen pen – 68
  • Busnesau pren mewn cysylltiad â’r prosiect – 42
  • Prosiectau a hwyluswyd ac a gwblhawyd trwy’r prosiect – 14
  • Pren caled a dargedwyd trwy’r prosiect: Ynn, Gwern, Ffawydd, Bedw, Ceirioswydd, Derw, Masarn, Poplys
  • Pren meddal a dargedwyd trwy’r prosiect: Llarwydd, Pinwydd, Ffynidwydd Douglas, Pefrwydd Sitka

Yn ystod y prosiect, gwnaeth y data a ddarparwyd o dreialon a phrofion a gynhaliwyd yn unol â safonau presennol yr UE ddwyn sylw at nodweddion unigryw eraill graen pen. Mae crynodeb o’r treialon hyn i’w weld dan y pennawd Crynodeb o’r Ymchwil. Yn sgil y data a gasglwyd, cafwyd potensial i greu cynhyrchion newydd a chyfleoedd yn y farchnad i ddylunwyr a gweithgynhyrchwyr, er enghraifft:-

  • Triniaethau i wella nodweddion gwrthsefyll trawiadau a thraul.
  • Rhoi hirbarhad i rywogaethau nad ydyn nhw’n hirbarhaol, trwy driniaeth resin.
  • Gwella nodweddion amsugno sŵn mewn rhai rhywogaethau penodol.
  • Gwella nodweddion gwrthlithro, trwy ddeifio.
  • Cynhyrchion newydd llorio a gorchuddio waliau.

project-summary-diagram-cymraeg-1

Mae’r diagram uchod yn dangos y gadwyn gyflenwi ar gyfer pren sy’n dod o deneuo Coetiroedd Cymru da eu rheolaeth i mewn i’r farchnad deunydd llorio Graen Pen. Gellir cymhwyso’r egwyddor hon i lawer o gynhyrchion pren eraill ac mae’n dangos sut mae cadwyn cyflenwi pren integredig yn gallu gweithio i gynhyrchu cyflogaeth yn yr economi leol ac ychwanegu gwerth sylweddol trwy drosi’r pren yn gynnyrch gorffenedig.