Beth yw graen pen?

Mae boncyff coeden yn debyg i fwndel o wellt wedi’u lapio gyda’i gilydd, gan ganiatáu pwmpio gwlybaniaeth a maethynnau o’i gwreiddiau i’w dail sydd, yn eu tro, yn anfon siwgr i lawr i’w changhennau, ei boncyff a’i gwreiddiau.

Daw graen pen i’r golwg pan mae pren yn cael ei dorri ar draws y cylchoedd twf blynyddol ar 90 gradd yn hytrach na thorri astell pren ar hyd hyd y goeden. Mae’r math hwn o dorri’n dangos cymeriad a mecanwaith mewnol coeden, gan ddatgelu arwyneb hynod ddeniadol a hirbarhaol.

Y craidd yw’r enw ar hollol ganol boncyff coeden, fel y gwelir yn y diagram. Y rhuddin ac yna’r gwynnin yw’r cylchoedd nesaf allan o’r craidd. Y gwynnin sy’n cyflawni prif swyddogaethau’r boncyff – cefnogi, cynhyrchu bwyd a symud maethynnau y mae’r gwreiddiau’n eu hamsugno i ben y goeden. Rôl gefnogi sydd gan y rhuddin yn bennaf. Mae hi hefyd yn bwysig nodi presenoldeb cylchoedd twf blynyddol sy’n cynnwys dwy adran: pren gwanwyn a phren haf.

Gellir cymharu adeiledd mecanyddol y pren mewn boncyff coeden â bwndel o wellt. Nid yw rhoi pwysau yn syth i lawr ar bennau’r gwellt (graen pen) yn achosi rhyw lawer o ystumio, os o gwbl, o’i gymharu â rhoi’r un pwysau ar ymylon y gwellt (graen hir). Mae ei ymwrthedd i drawiadau a thraul yn well o lawer nag ymwrthedd graen hir confensiynol. Gallwch chi werthfawrogi pam y mae Graen Pen wedi’i ddefnyddio dros y canrifoedd mewn eitemau fel morthwylion pren, coblau ar gyfer strydoedd a lloriau diwydiannol, blociau cigydd a phadiau brêcs cerbydau ymhlith llawer o bethau eraill.

what-is-endgrain-4

endgrain-diagram-welsh

Adran o foncyff coeden yn dangos yr holl wahanol haenau