Mae’r wefan hon yn dwyn ynghyd canlyniadau prosiect chwe blynedd cyffrous. Ym mis Mehefin 2009, gwnaethom ni ddechrau ar brosiect ymchwil a datblygu i edrych ar gadwyn gyflenwi teils lloriau graen pen.
Nodyn: Cylch gorchwyl Coed Cymru yw helpu a chynghori ar reoli coetiroedd a defnyddio’r cynhyrchion sy’n tarddu ohonyn nhw’n gynaliadwy. Nid ydyn ni’n gwerthu nac yn gweithgynhyrchu cynhyrchion pren. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’n cynghorwyr yn Coed Cymru.
Y ffactor arwyddocaol yw bod y teils hyn yn tarddu o bren Cymreig bach ei ddiamedr, o werth isel. Ariannwyd y prosiect trwy Gronfa Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig fel rhan o brosiectau Cynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi yng Nghymru.
Crynodeb yw hwn o’r gwaith a wnaed yn defnyddio pren Cymreig bach ei ddiamedr, yn tarddu o goetiroedd sy’n cael eu rheoli mewn modd cynaliadwy. Gwnaeth yr ymchwil ddangos y potensial cynhenid y mae nodweddion graen pen pren yn ei gynnig. Rydyn ni wedi dangos sut mae’r math hwn o ddeunydd yn gallu ychwanegu gwerth sylweddol ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi. Rydyn ni nawr yn gwybod bod yna botensial sylweddol i greu cynhyrchion newydd ar gyfer y marchnadoedd llorio a gorchuddio waliau.
Delwedd ar yr hafandudalen – cynnyrch trwy garedigrwydd Dragonfly Creations Ltd.