Portffolio

Teils Llawr Woodcrete, Pafiliwn Coed Cymru - 2015

Gweithgynhyrchwr: Specialist Precast Products, Caerffili www.specialistprecastproducts.co.uk

Deunyddiau: Sglodion pefrwydd wedi’u cymysgu â sment.

Maint y Teils: 300mm x 600mm x 25mm o drwch

Arwynebedd Llawr: 20m2

Gweithgynhyrchwyd y teils Woodcrete ar gyfer pafiliwn newydd Coed Cymru ym maes Sioe Frenhinol Cymru. Dyma’r tro cyntaf y mae SPP wedi gwneud teils llawr allan o’r deunydd hwn a bydd yn eu hasesu yn ystod y cwpl o flynyddoedd nesaf o safbwynt perfformiad a nodweddion thermol.