Hanes

Crynodeb

Mae pren graen pen wedi’i drosi’n deils ac yn goblau am ganrifoedd. Roedden nhw’n cael eu defnyddio ar gyfer arwyneb pafinau a ffyrdd. Roedd y blociau cyntaf yn grwn neu’n hecsagonal a defnyddiwyd nhw mewn strydoedd a phalmentydd yn Ewrop, America a Rwsia. Roedden nhw’n boblogaidd yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, gan eu bod nhw’n darparu arwyneb mwy diogel i geffylau a wagenni. Roedd coblau pren yn rhoi gwell gafael i bedolau ceffylau a’r ymylon haearn ar olwynion. Yn Llundain tuag at ddiwedd y 1800au, bu Syrfëwr y Ddinas, Mr Hayward, yn arsylwi ar ddamweiniau bob dydd dros gyfnod hir. Daeth i’r casgliad y byddai ceffyl yn teithio cyn cwympo: 132 milltir ar bafin wedi’i osod â gwenithfaen, 192 milltir ar asffalt a 446 milltir ar bren.

Defnyddiwyd gwahanol brennau ar gyfer coblau, ac roedd blociau pinwydd Norwy a oedd wedi’u creosotio’n boblogaidd mewn llawer o ddinasoedd mawr. Roedd coblau pren hefyd yn golygu bod yna lai o sŵn traffig. Roedd hyn o fudd mawr, yn enwedig o amgylch mynedfeydd gorsafoedd rheilffordd Fictoraidd yn Llundain, lle roedd sŵn yn atseinio oddi ar eu nenfydau bwaog uchel.

Ar ddechrau’r 1920au, defnyddiwyd blociau graen pen ar gyfer lloriau hefyd mewn ffatrïoedd peirianneg mawr yn Ewrop ac America. Roedd yn arwyneb mwy maddeugar pan roedd cydrannau metel yn cwympo arno. Mae’r deunydd llorio diwydiannol hwn yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Yn ddiweddar, mae lloriau teils graen pen wedi dod i gael eu defnyddio’n fwy eang mewn adeiladau cyhoeddus a chartrefi preifat. Mae’n cymryd cryn lafur dwys i’w weithgynhyrchu, sy’n ei wneud yn gynnyrch drud ond o ansawdd. Fodd bynnag, mae’n hynod hirbarhaol o’i gymharu â phren graen hir ac mae’n gwneud llawr deniadol a thrawiadol iawn. Mae coblau wedi dod yn ôl i ffasiwn gan fod penseiri a dylunwyr yn gwerthfawrogi’r nodweddion niferus y mae pren graen pen yn eu cynnig.

 

Ffyrdd o Bren

Mae yna dystiolaeth archaeolegol sylweddol o ledled Ewrop o ddefnyddio pren fel arwyneb llwybrau neu ffyrdd, yn enwedig dros ardaloedd corsiog. O’r Oes Efydd, bron i 4000 mlynedd yn ôl, a hyd at yr ugeinfed ganrif mae pobl wedi adeiladu llwybrau o brigau wedi’u plethu a ffyrdd boncyffion. Mae rhai yn strwythurau syml o bren wedi’i dorri a’i osod ochr yn ochr ar y llawr, tra bo eraill yn strwythurau mwy cymhleth yn dangos sgiliau saernïo cynnar.

Nid yw ffyrdd o bren wedi’u cyfyngu i hanes yr henfyd. Roedd ganddyn nhw ran i’w chwarae mewn gwaith adeiladu ffyrdd a strydoedd i mewn i hanner cyntaf yr 20fed ganrif cyn i gerbydau mwy, a mwy moduraidd, olygu iddyn nhw ddiflannu. Yn America, sydd ag ardaloedd sylweddol o fforestydd naturiol, roedd pren yn ddeunydd adeiladu cyffredin. Byddai’n cael ei ddefnyddio i adeiladu cartrefi, ysguboriau, ffensys a dodrefn a hefyd i adeiladu ffyrdd a strydoedd.

Ym 1851, fe adroddodd Hunt’s Merchant Magazine and Commercial Review mai yn Rwsia y cafwyd y ffyrdd estyll cyntaf. Fe gyflwynodd yr Arglwydd Sydenham nhw i Ganada a gwnaeth yr arbrawf hwn argraff ar Efrogiaid Newydd o gwmni Onondaga County, a gwnaethon nhw yna’u cyflwyno i’r Unol Daleithiau. Cafodd y ffyrdd eu hybu’n frwdfrydig mewn cymunedau yr oedd adeiladu rheilffyrdd a chamlesi wedi’u gadael ar ôl. Lle roedd yna ddigonedd o goed, gellid adeiladu ffordd estyll am ryw $1,900 y filltir, pan fyddai macadam wedi costio $3,500 y filltir.

 

Coblau Pren

Tra roedd pobl mewn ardaloedd gwledig yn adeiladu ffyrdd estyll, roedd pobl mewn ardaloedd trefol yn gosod lonydd a strydoedd blociau pren. Gwnaeth J. Lee Stevens, sef hybwr pren ar gyfer strydoedd dinesig, gyhoeddi pamffled ym 1841 a oedd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r blociau pren a oedd yn palmantu strydoedd Llundain. Byddai wagenni a cherbydau â theiars dur gyda cheffylau â phedolau haearn yn eu tynnu’n chwyddo twrw byddarol yn erbyn gwenithfaen, cerrig crynion a brics a oedd wedi’u gosod i warantu arwynebau ar gyfer pob tywydd mewn strydoedd trefol.

Fodd bynnag, byddai pedolau ac olwynion metel yn treulio pafin mewn llai na degawd, felly daeth ailbalmantu’n swyddogaeth ddinesig hanfodol. Fe ddadleuodd Stevens dros gael blociau pren i ddisodli arwynebau caletach oherwydd eu nodweddion amsugno sŵn. Fe fynnodd fod pren yn para’n hirach na charreg a’i fod yn llai drud i’w osod a’i ailosod. Yn ôl amcangyfrif Stevens, fe fyddai cael blociau pren i ddisodli gwenithfaen yn arwain at arbedion o rhwng 10% a 30% dros 20 mlynedd.

Yn 2006 gwnaeth David Whitten, o Brifysgol Auburn, gynhyrchu adroddiad manwl o’r enw “A Century of Parquet Pavements: Wood as a paving material in the United States and Abroad, 1840-1940”. Fe ymchwiliodd i ddosbarthiad byd-eang blociau palmantu pren, y newidiadau yn nhechnoleg trin, gosod a gwella blociau pren, a’r rhesymau pam i bren ddiflannu fel deunydd palmantu. Mae ei ymchwil wedi rhoi dealltwriaeth eglur i ni o hanes a phwysigrwydd coblau pren.

Roedd yr enghreifftiau cyntaf o goblau graen pen yn Llundain yn grwn neu’n hecsagonal ac mae rhai dal i’w gweld heddiw. Cafodd y coblau cyntaf eu gwneud o brennau meddal wedi’u mewnforio o Sweden, ond yna gwnaeth brennau caled o Awstralia, gan gynnwys Jarrah a Kari Ewcalyptws, eu disodli. Fe ddewisodd dinasoedd eraill ym Mhrydain goblau Jarrah yn sgil llwyddiant taith ddarlithio Richard Watkins Richards, syrfëwr dinas Sydney, o amgylch Ewrop am flwyddyn rhwng 1896 a 1897. Fe glodforodd rinweddau prennau caled Awstralia ar gyfer palmantu strydoedd. Mewn papur a ysgrifennwyd ym 1904, fe hawliodd mai prennau caled, gan gynnwys y Goeden Fonddu, y Werwydden, yr Ewcalyptws Glas, yr Ewcalyptws Coch, y Goeden Dyrpant a Mahogani, oedd y deunydd agosaf at berffaith ar gyfer pafin cerbydau wrth ystyried pob amod, o ran traffig, yr hinsawdd, meteoroleg ac agweddau adeiladol sy’n dod i ran dinasoedd ym mhob gwlad.

Y sôn oedd bod coblau graen pen yn darparu arwyneb gwell i geffylau a wagenni â’u holwynion ag ymylon haearn. Bu syrfëwr Dinas Llundain ar y pryd, sef Mr Hayward, yn arsylwi ar ddamweiniau bob dydd am gyfnod hir a daeth i’r casgliad y byddai ceffyl yn teithio 132 milltir ar bafin wedi’i osod â gwenithfaen, 192 milltir ar asffalt a 446 milltir ar bren, cyn cwympo.

Roedd strydoedd blociau pren i’w gweld yn Llundain mor gynnar â 1840. Erbyn 1915, roedd pafin blociau pren yn cael ei ddefnyddio’n gyffredin mewn dinasoedd a threfi mawr ledled Prydain. Daeth yn fwyfwy poblogaidd oherwydd ei fod yn para’n hirach dan draffig modurau-bysys nag unrhyw bafin llyfn arall a oedd wedi’i gyflwyno hyd hynny am gost debyg. Ymhlith y manteision eraill oedd ei fod yn hawdd i’w drwsio ac nid oedd unrhyw lwch a sŵn.

Mewn 10 o’r 28 bwrdeistref yn Llundain, roedd yna 121 milltir o flociau pren wedi’u creosotio ym 1912, gan gynnwys 40 milltir yn ninas Westminster, lle roedd y strydoedd adwerthu gorau, adeiladau llywodraeth, theatrau, amgueddfeydd ac orielau celf i’w cael. Fe fabwysiadodd dinasoedd a threfi mawr eraill ar draws y wlad bafin pren ar gyfer rhai o’u strydoedd gorau. Ym 1915, fe ragwelodd y Canadiaid y byddai’r Rhyfel Byd Cyntaf yn dod i ben ac y byddai galw tebygol am bren ffynidwydd Douglas, sbriws gwyn, pinwydd main a phinwydd coch i balmantu strydoedd Prydain. Yn ôl yr amcangyfrif, fe ddefnyddiodd Prydain Fawr 60 miliwn troedfedd o bren ar gyfer palmantu ym 1913.

Roedd blociau pren yn dal i orchuddio strydoedd enwocaf Llundain tan y 1920au, a rhai i mewn i’r 1930au. Mae map ‘Bartholomew’s Road Surface Map of London’ o 1922 yn dangos mai blociau pren oedd arwynebau’r mwyafrif o ffyrdd yn Llundain. Mae copi i’w weld yn Llyfrgell Genedlaethol yr Alban. Fodd bynnag, erbyn 1925, roedd pren wedi dod i ben fel deunydd ffyrdd a daeth tarmacadam i’w ddisodli.

Ar draws yr Iwerydd yn America, fe adeiladwyd mwy na 3,500 milltir o ffyrdd o bren yn Efrog Newydd rhwng 1847 a 1853. Mae wedi’i gofnodi bod James G. McBean, sef contractwr pafin blociau pren, wedi cynnig palmantu hanner Stryd Washington, rhwng strydoedd LaSalle a Clark, yn Chicago, â blociau cedrwydd ym 1892.

Mae un o’r enghreifftiau cynharaf o loriau blociau pren yng Nghymru i’w gweld yng Nghwrt Plas yn Dre, yn y Drenewydd, Powys. Mae pobl hefyd yn galw hwn yn Senedd-dy Dolgellau Owain Glyndŵr, ond nid yw hynny’n gywir. Mae’r plasty rhestredig Gradd II hwn yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif. Fe symudwyd ef o Ddolgellau ym 1885 a chafodd ei atgyweirio’n helaeth pan gafodd ei ailadeiladu. Yn ddiddorol iawn, mae ganddo lawr blociau graen pen pren derw 3 modfedd, ar hap. Mae dyddiad ei ailadeiladu wedi’i nodi yn y llawr gan ddefnyddio patrwm y blociau.

Ym Mharis, fe dreialwyd system newydd o bafin pren ym 1892. Roedd pafin pren yn cael ei ddefnyddio yn adrannau prysuraf strydoedd Melbourne a Sydney ym 1894, a defnyddiwyd blociau ffynidwydd Douglas wedi’u creosotio fel pafin yn Tokyo ym 1923. Defnyddiwyd amrywiaeth o rywogaethau pren, gyda blociau pinwydd Norwy yn foddhaol mewn llawer o ddinasoedd mawr.

Manteision ac Anfanteision Pafin Blociau Pren

Bu syrfewyr a pheirianwyr yr oes yn dadlau ynglŷn â manteision ac anfanteision pren fel deunydd ar gyfer gwasanaethau ffordd. Ar y cyfan, y farn oedd mai’r manteision oedd bod blociau neu goblau pren:-

  • Yn lleihau sŵn;
  • Yn fwy diogel i geffylau na gwenithfaen neu asffalt;
  • Yn rhoi gwell gafael nag asffalt;
  • Yn lanach o lawer na Macadam;
  • Yn cyflwyno arwyneb gwastad, ychydig yn elastig, a oedd yn fantais fawr i draffig cerbydol;
  • Yn fwy diogel nag unrhyw bafin arall ar lethrau.

Roedden nhw o’r farn mai’r anfanteision oedd:-

  • Bod pren yn amsugno lleithder a bod arogleuon drwg yn dod ohono;
  • Ei bod hi’n anodd ei gadw’n lân mewn rhai amodau tywydd penodol;
  • Nad oedd yn hawdd i’w drwsio ar ôl agor rhychau ar gyfer pibellau nwy a dŵr.

Roedd blociau pren hefyd yn gwneud synnwyr economaidd. Roedd pafin pren yn para rhwng naw a deuddeg mlynedd, ac wedi hynny roedd angen ailbalmantu. Fodd bynnag, fe fyddai hanner y blociau’n ddigon da i’w hailddefnyddio. Mewn arbrofion ymarferol, dangoswyd bod colli 1/16eg modfedd o floc 4.5 modfedd o drwch mewn stryd brysur dros gyfnod o ddwy flynedd a hanner yn dderbyniol, cyn belled â bod y pren a ddefnyddiwyd yn addas ar gyfer pafin.

Roedd blociau pafin pren yn un ateb wrth i gymdeithasau diwydiannol o amgylch y byd ymgodymu â’r lefelau sŵn uchel yn eu dinasoedd a oedd yn tyfu. Yn ystod y degawdau cyn i deiars rwber niwmatig wneud y daith yn fwy esmwyth a lleihau twrw cerbydau ag olwynion dur a cheffylau â phedolau haearn, yna blociau pren oedd yr ateb. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa ar fin newid ac, fel y dywedodd Whitton, dylid ystyried yr hyn yr oedd strydoedd a phriffyrdd ar droad y ganrif yn galw amdano wrth edrych ar y defnydd o bafin blociau pren, yn hytrach nag yn nhermau deunyddiau adeiladu modern. Ni wnaeth pafin blociau pren fethu; fe ddiflannodd oherwydd i anghenion newid.

Nid oedd unrhyw fwriad i flociau pren fod yn ddeunydd pafin at bob pwrpas, ond yn hytrach yn sylwedd arbennig ar gyfer strydoedd dethol. Nid oedd peirianwyr dinasoedd yn dychmygu dinas â phafin yn gwbl o bren. Roedden nhw’n teimlo bod blociau pren yn briodol ar gyfer strydoedd ger ysbytai, ysgolion, eglwysi ac adeiladau cyhoeddus, fel llysoedd. Yn yr amgylchiadau hyn, ac mewn strydoedd â thagfeydd traffig trwm lle roedd sŵn stryd yn broblem fawr, pren oedd yr ateb. Nid rhyw fympwy oedd pafin blociau pren, ond ateb i broblem drefol ddifrifol.

Yn ôl Whitton, nid yw’n hawdd i ddynion a menywod modern ddychmygu’r sŵn roedd cannoedd o olwynion â theiars dur a cheffylau â phedolau’n ei gynhyrchu ar strydoedd blociau brics, dur, haearn neu wenithfaen, wedi’u gosod rhwng adeiladau aml-loriog. Roedd palmant pren yn gryn fendith yn y gymdeithas ceffylau a wagenni. Roedd blociau pren hefyd yn ddefnyddiol i lenwi bylchau o amgylch traciau tramiau. Roedd y pren hyblyg yn llai tebygol o hollti, torri neu grwydro i ffwrdd o’r cledrau haearn neu ddur a fyddai’n dirgrynu.

 

Rhai Ffyrdd Eraill o Ddefnyddio Pren Graen Pen

Ar ddechrau’r 1920au, defnyddiwyd blociau graen pen ar gyfer lloriau hefyd mewn ffatrïoedd peirianneg mawr yn Ewrop ac America. Roedd yn arwyneb mwy maddeugar os oedd cydrannau metel yn cwympo arno. Mae’r deunydd llorio diwydiannol hwn yn dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Roedd gan un o’r ffatrïoedd gweithgynhyrchu ceir cynharaf yn Detroit, UDA, sef Fisher Body Works, loriau coblau pren. Roedd gan y ffatri a oedd yn gwneud ceir Model T Ford chwe llawr, a defnyddiwyd coblau pren yno i amsugno dirgryniad o beiriannau trwm ac i leihau lefelau sŵn. Mae yna adroddiadau hefyd o goblau’n amsugno unrhyw olew a oedd yn gollwng. Mae lloriau blociau pren yn dal i gael eu defnyddio heddiw mewn llawer o ddiwydiannau trwm yn UDA, gan gynnwys gweithgynhyrchwyr berynnau ac alwminiwm, gweithgynhyrchwyr canonau, gorsafoedd pŵer ac warysau, yn wir, unrhyw le lle mae galw am lawr gwydn.

Mewn blynyddoedd diweddar, mae lloriau teils graen pen wedi dod i gael eu defnyddio’n fwy eang mewn llawer o adeiladau cyhoeddus a chartrefi preifat. Yn ogystal â bod yn ddeniadol ac yn drawiadol, mae’n hynod hirbarhaol o’i gymharu â phren graen ochr.

Mae pren graen pen masarn a ffawydd hefyd wedi’i ddefnyddio ar gyfer blociau cigydd oherwydd ei arwyneb caled, hirbarhaol a hylan sy’n gallu gwrthsefyll cyllyll hollti’n taro yn ei erbyn drosodd a throsodd, heb bylu’r llafn.