Portfolio

Myfyrwyr Ail Flwyddyn o Ysgol Bensaernïaeth Cymru, Caerdydd

Lleoliad: Gweithdy Coed Cymru, Tregynon.

Bu grŵp o fyfyrwyr ail flwyddyn o Ysgol Bensaernïaeth Cymru’n treulio wythnos yng Nghanolbarth Cymru ar fodiwl dysgu i ddod i ddeall pren yn well. Yn ystod yr amser hwn, buon nhw ar ymweliad â melin lifio BSW yn y Bontnewydd-ar-Wy gan ddatblygu syniadau am gynhyrchion syml y gellid eu defnyddio mewn caban pysgota bach ar lannau afon Gwy. Treuliwyd deuddydd yng ngweithdai Coed Cymru lle dangoswyd technegau uniadu a gweithgynhyrchu amrywiol iddyn nhw. Yna, fe aethon nhw ymlaen i roi’r technegau hyn ar waith wrth wneud cynhyrchion amrywiol. Roedd hi’n ddiddorol gweld sut gwnaeth y broses o wneud a thrin pren siapio a darparu sail ar gyfer eu dyluniadau terfynol.