Sychu
Mae sychu’r teils yn gallu bod yn un o’r prosesau mwyaf anodd i’w gael yn iawn. Oherwydd natur y prosiect, sy’n defnyddio boncyffion bach eu diamedr, mae craidd y goeden yn aros yng nghanol y deilsen. Mae’r cyfluniad hwn o’r pren yn golygu ei fod yn hynod dueddol o hollti, o ymyl y deilsen i’r craidd. Mae hyn oherwydd y diriannau sy’n digwydd yn y deilsen os yw’n cael ei sychu’n rhy gyflym. Mae rhai rhywogaethau’n achosi mwy o broblemau nag eraill; derw a ffawydd yw’r gwaethaf. Fe edrychodd y prosiect ar ddau ffurf ar sychu. Roedd y cyntaf yn defnyddio Odyn Gwresogi ac Awyru ac roedd yr ail yn defnyddio Ffwrn Trin â Gwres. Y gofyn yn y ddau achos oedd cael cynnwys lleithder yn y teils i lawr i rhwng 8% a 10%, sy’n ofynnol ar gyfer lloriau pren modern dan do, gyda chyn lleied o golled â phosibl oherwydd hollti tangiadol yn y deilsen graen pen. Defnyddiwyd mesurydd lleithder i fesur y cynnwys lleithder.
Pan ddefnyddir odyn i sychu, mae angen aersychu’r teils nes bod yna lai nag 20% o gynnwys lleithder. Oherwydd natur y deilsen gyda’i dwy wyneb graen pen, mae’n gallu sychu’n gyflym iawn. Mae’n well cadw’r teils sy’n sychu allan o olau uniongyrchol yr haul ac ni ddylai fod gormod o symudiad aer o’u hamgylch. Mae pren derw a ffawydd yn arbennig o agored i niwed. Yna, gosodwyd y rhain ar reseli arbennig, sef yr allwedd i atal hollti tangiadol, cyn eu gosod yn yr odyn. Ar gyfartaledd, mae ffwrn metr ciwbig o faint yn gallu cymryd 1300 o deils diaddurn (115mm x 115mm x 15mm). Mae’r odyn Gwresogi ac Awyru’n rhedeg trwy wresogi gofod mewnol y blwch hyd at 30 gradd C a chylchredeg yr aer o amgylch a thrwy’r pren â chyfres o ffaniau.
Pan roedd yr odyn wedi’i stacio’n iawn ac roedd y tymheredd a’r gwlybaniaeth perthynol wedi’u gosod i gyfateb i gynnwys lleithder gofynnol y teils sych, fe gymerodd 10 diwrnod ar gyfartaledd i’w sychu pan roedd y cynnwys lleithder yn 20% ar y dechrau.
Prynwyd ffwrn Trin â Gwres â siambr metr ciwbig i dreialu sychu teils graen pen yn 2010. Mae’r ffwrn hon yn twymo i hyd at 190°C gyda chyflenwad parhaus o stêm yn cael ei bwmpio i mewn iddi a’i gylchreded o amgylch a thrwy’r pentwr pren yn barhaus. Mae’n broses ddrytach na sychu mewn odyn oherwydd swm y trydan y mae’n ei ddefnyddio i wresogi’r siambr. Fodd bynnag, mae’r amseroedd sychu byr o ddeg awr ar gyfartaledd yn gwneud iawn am hyn. Staciwyd y teils diaddurn gwyrdd ar reseli dur galfanedig. Mae’n hanfodol rhoi’r pren trwy’r broses sylfaenol o groeslifio’r plociau ac yna’u gosod ar y rheseli sychu pwrpasol mor gyflym â phosibl. Mae oedi’n gallu achosi i ben y plociau hollti, marciau ffwng yn y teils diaddurn sydd wedi’u croeslifio, a hollti rheiddiol.
Mae’r tymheredd yn cael ei gynyddu i 120°C a’i gadw ar yr un lefel am awr cyn ei gynyddu i 190°C a’i gadw ar y lefel honno am sawl awr. Po hiraf y cedwir y tymheredd ar 190°C, tywyllaf oll yw’r teils.
Dyma oedd y manteision a nodwyd o’r broses hon:
- Y gallu i dywyllu’r teils fesul cam i gael lliw moca cyfoethog. Mae’r teils yn gallu edrych fel tîc neu fahogani.
- Nid yw’r pren yn gallu ailamsugno lleithder ar ôl ei drin, fel y byddai wedi gallu ei wneud cyn ei drin, sy’n gwneud symudiad yn llai tebygol sydd o fudd mawr i brennau fel ffawydd.
- Yn ei gwneud hi’n haws eu peiriannu a’u gorffen.
- Gallu troi stoc rownd yn gyflym.
- Fel yn achos sychu mewn odyn, mae’r rheseli sychu sydd wedi’u datblygu’n allweddol i beidio â chael rhyw lawer o wastraff trwy hollti tangiadol, ar 7% ar y mwyaf. Fodd bynnag, roedd y ganran hon yn uwch, ar ryw 15%, yn achos derw a ffawydd.