Prosesu

Prosesu

Mae Coed Cymru wedi bod yn cymryd rhan yn y broses trosi pren bach ei ddiamedr ers dechrau’r 1990au. Maen nhw, ar y cyd â Dragon Engineering yn Sir Gâr, wedi datblygu llif fras gylchol â dau lafn, o’r enw Double Slabber. Mae’r peiriant hwn yn cael ei osod ar gefn tractor, a phŵer y tractor sy’n ei yrru. Manteision hyn yw bod modd trosi pren yn y coetiroedd eu hunain heb orfod ei gludo i iardiau prosesu, ac mae’n ei gwneud hi’n haws trin a throsi boncyffion bach eu dimensiwn yn flociau neu’n estyll.

Mae hwn wedi bod yn beiriant delfrydol i’w ddefnyddio ar gyfer gwaith sylfaenol prosesu’r boncyffion i gynhyrchu’r plociau cychwynnol. Mae diamedr boncyffion sy’n ffitio ar y llif ac sy’n addas ar gyfer teils a choblau graen pen yn amrywio o rhwng 150mm and 300mm ac maen nhw rhwng 1 metr a 2 fetr o hyd. Mae modd rhoi pob rhywogaeth pren trwy’r llif ac mae modd wedyn ail-lifio byrddau sydd wedi cwympo i wneud byrddau cul. Mae hyn yn sicrhau bod cymaint o ddeunydd â phosibl yn dod o bob boncyff. 115mm x 115mm oedd maint y plocyn safonol a ddefnyddiwyd ar y prosiect. Roedd y maint hwn yn ormodol i lwfio ar gyfer y deilsen ddiaddurn yn symud ac yn crebachu, cyn ei pheiriannu yn y diwedd i’r maint gofynnol o 100mm x 100mm x 12mm. Dyma oedd maint cyfartalog y deilsen orffenedig safonol ar gyfer y prosiect.

Gellir defnyddio llifiau a dulliau llifio eraill, ond mae’n rhaid cymryd maint bach y boncyffion i ystyriaeth ac ystyried pob mater sy’n ymwneud â diogelwch. Roedd Dave Manuel, o Heartwood Timber yng Nghaersws, yn bartner preifat yn y rhan hon o’r prosiect, ac fe gyfrannodd cryn dipyn o amser a gwybodaeth i’r prosiect. Mae Coed Cymru’n hynod ddiolchgar iddo am ei gyfraniad.