Ffyrdd o ddefnyddio Graen Pen yr ymchwiliwyd iddyn nhw

Ffyrdd o ddefnyddio Graen Pen yr ymchwiliwyd iddyn nhw

Fe ganolbwyntiodd cyfnod cychwynnol y prosiect ar deils graen pen sengl ar gyfer lloriau mewnol. Trwy weithio gyda’r deunydd fe gawsom ni ddealltwriaeth well o nodweddion cynhenid defnyddio pren ar y fformat hwn. Yn ogystal â’r ymholiadau a ddaeth o du llunwyr manylebau, fe ddaeth yn amlwg fod yna botensial ehangach i ddatblygu’r deilsen graen pen i greu cynhyrchion eraill ac i fynd i farchnadoedd eraill. Cynhaliwyd cyfres o brosiectau a threialon ymchwil bach i ddeall potensial masnachol rhai o’r rhain yn well, ac i sicrhau bod y darganfyddiadau ar gael i weithgynhyrchwyr sydd â diddordeb ynddyn nhw.

 

project-summary-flooring-1

  1. Deunydd llorio graen pen wedi’i beiriannu – Gludiwyd haen dreulio 4mm i 6mm ar fwrdd cefnu o bren haenog neu bren meddal wedi’i groes-laminadu. Mae hyn yn creu cynnyrch llorio sefydlog y mae modd ei osod yn yr un ffordd â bwrdd llorio tafod a rhigol confensiynol. Mae’n hawdd i’w osod ac yn ddelfrydol ar gyfer adeiladau sydd â system wresogi o dan y llawr.

www.kentonjones.com
www.timbersource.co.uk
www.jamesratfordbridge.co.uk
www.wlwest.co.uk

 

project-summary-cobbles-1

  1. Coblau i’w defnyddio ar arwynebau allanol a diwydiannol – Mae hyn yn deillio o’r defnydd gwreiddiol o goblau graen pen lle mae adrannau mwy trwchus o bren yn cael eu gosod mewn ardaloedd sy’n galw am arwyneb cadarn sy’n gallu delio â thrawiadau a thraul parhaus. Yn sgil nifer o ymholiadau i’r prosiect cadwyn gyflenwi fe gwblhawyd contractau ar gyfer coblau graen pen wedi’u gosod ar arwynebau allanol a diwydiannol. Gellir gweld y rhain dan y teitl Portffolio. Gwnaethom ni wneud profion i edrych ar ddichonoldeb ychwanegu nodweddion gwrthlithro mewn amodau gwlyb trwy ddeifio; eu gwneud yn fwy hirbarhaol trwy driniaeth resin; eu gwneud yn galetach ac ychwanegu nodweddion gwrthsefyll traul. Gellir gweld y rhain ar y dudalen Ymchwil. I gael gweithgynhyrchwyr posibl, cysylltwch â:

www.timbersource.co.uk
www.wentwoodtimbercentre.co.uk
www.broadleaftimber.com
www.jamesratfordbridge.co.uk
www.wlwest.co.uk

 

project-summary-sound-absorption-1

  1. Panel wal amsugno sŵn – Cynhaliwyd ymchwil gan Brifysgol Salford i ymchwilio i nodweddion amsugno sŵn posibl rhai o’r rhywogaethau pren mandyllog. Roedd canlyniadau ffawydd a phoplys yn rhyfeddol o dda, ac nid oes digon o ddefnydd o’r ddwy rywogaeth yn y marchnadoedd gwerth ychwanegol ar hyn o bryd. Mae yna botensial i greu paneli sy’n amsugno sŵn yn dda ac sy’n edrych yn ddiddorol. Mae waliau nodwedd o foncyffion bach eu diamedr wedi bod mewn ffasiwn am sawl blynedd bellach, a gallai’r ymchwil hon ychwanegu agwedd weithredol at rywbeth sy’n gynnyrch hynod esthetig ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw weithgynhyrchwyr o’r cynnyrch hwn. Efallai yr hoffech chi ddarllen crynodeb o’r adroddiad ar y dudalen Ymchwil a chysylltu â Coed Cymru os oes angen mwy o wybodaeth arnoch chi.

 

project-summary-oval-grain-2

  1. Bwrdd Graen Hirgrwn – Mae boncyffion bach eu diamedr yn cael eu torri ar ongl fain sy’n cynhyrchu bwrdd byr o ryw 300mm i 450mm o hyd. Mae hyd y bwrdd yn golygu nad oes angen unrhyw jigiau arbennig i’w beiriannu ac mae modd ei roi trwy’r mwyafrif o beiriannau llyfnu neu fowldio. Mae wyneb y bwrdd yn dangos patrwm y graen pen sy’n rheiddio mewn siâp hirgrwn o’r craidd. Nid yw’r arwyneb mor galed neu’n gwrthsefyll traul cystal â theils graen pen sydd wedi’u torri ar 90 gradd i’r graen, ond mae’n well na bwrdd graen ochr safonol. Mae’r bwrdd graen hirgrwn yn gwneud deunydd deniadol a neilltuol ar gyfer lloriau a gorchuddion wal. I gael gweithgynhyrchwyr posibl, cysylltwch â:

www.sandersonsfinefurniture.co.uk
www.wlwest.co.uk

 

project-summary-woodcrete-1

  1. Teils Woodcrete – Caiff sglodion gwastraff o weithgynhyrchu teils graen pen neu gynhyrchion pren Cymreig eraill eu cymysgu â sment. Mae modd arllwys hwn i fowldiau yn yr un modd â choncrit confensiynol i wneud teils llawr neu gynhyrchion eraill. Fe osodwyd hwn a’i roi ar brawf ym mhafiliwn newydd Coed Cymru ym maes y Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-muallt ym mis Gorffennaf 2015. Mae hyn yn defnyddio ac yn cynyddu’r potensial i ychwanegu gwerth at ddeunydd gweddilliol o gynhyrchu pren a fyddai fel arall yn cael ei daflu neu ei losgi. Specialist Precast Products (SPP) yng Nghaerffili sy’n gweithgynhyrchu Woodcrete www.specialistprecastproducts.co.uk