Cefndir y prosiect

Cefndir y prosiect

project-summary-image-1

Ym 1990, fe ddechreuodd Cyfarwyddwr Coed Cymru, David Jenkins, gyfres o dreialon yn edrych ar deils a choblau graen pen. Roedd hyn yn rhan o ymgyrch i ddarganfod ffyrdd o drosi cyflenwad helaeth o bren caled Cymreig bach ei ddiamedr yn gynhyrchion gwerth uchel. Roedd y treialon yn galw am dorri a sychu amrywiaeth o rywogaethau pren gradd isel, bach eu diamedr gan ddefnyddio gwahanol ddulliau, a nodi cynhyrchion a fyddai’n apelio orau i’r farchnad. Mae llawer o waith Coed Cymru wedi tyfu o’r cyfnod gwreiddiol hwnnw o daflu syniadau a phrototeipio, a ddechreuwyd gan David Jenkins, ar adeg pan nad oedd mewnforion pren o Tsieina wedi dod i’w anterth.

Mae David Manuel yn Heartwood Timber wedi bod yn brif brosesydd o’r cychwyn cyntaf yn y prosiect graen pen. Roedd David, sef contractwr coedwig sy’n rhedeg melin lifio yng Nghaersws, wedi bod wrthi’n teneuo coetir llydanddail. Roedd Coed Cymru wedi nodi bod hyn yn faes i’w reoli, ac aeth cwmni David ymlaen i brosesu’r pren bach ei ddiamedr yn ei felin lifio. Mae gwybodaeth David am wahanol rywogaethau coed a’r system brosesu sylfaenol wedi bod yn ganolog yn y gadwyn gyflenwi. Mae’n troi boncyffion crwn yn flociau pren sgwâr, wedi’u croeslifio, gan gadw’r rhuddin yn y canol ar gyfer y teils, sydd yna’n cael eu sychu.

Y cam nesaf oedd datblygu samplau prototeip. O ganlyniad, gosodwyd y llawr cyntaf o deils graen pen derw ym Maenordy Scolton, ger Hwlffordd yn Sir Benfro ym 1991. Parhawyd ag arbrofion gyda theils graen pen wedi’u gwneud o amrywiaeth o rywogaethau coed eraill ac, ym 1992, fe gysylltodd Coed Cymru â’r gweithgynhyrchwr Kenton Jones o Woods of Wales, y Trallwng, sef busnes llwyddiannus sy’n arbenigo mewn lloriau pren solet.

Roedd gan Kenton ddiddordeb masnachol yn y prosesau sychu a chynhyrchu roedd Coed Cymru wedi’u perffeithio. Fe nododd fwlch ym marchnad y DU am deils graen pen, a oedd ar gael yn yr Unol Daleithiau ond nad oedden nhw’n cael eu hallforio. Gwnaeth Kenton ddarganfod ei bod hi’n hawdd gwneud teils graen pen mewn sypiau bach, ond roedd hi’n fwy anodd cynhyrchu niferoedd mawr ohonyn nhw.

Fe gymerodd bum mlynedd i berffeithio proses arloesol defnyddio odyn a sychu, i atal y teils rhag hollti. Gwnaed hyn trwy brofi a methu, gan nad oedd unrhyw ddata ysgrifenedig ar gael. Y canlyniad pwysig oedd lleihau’r gwastraff, a ostyngodd o 20% yn hollti i ryw 5% yn hollti ar gyfartaledd.

Mae’r gwaith arloesol hwn wedi arwain at lawer o brosiectau llorio proffil uchel yn mynd rhagddyn nhw â theils graen pen o Woods of Wales. Mae’r rhain yn cynnwys llawr cegin Tywysog Cymru yn Highgrove yn Swydd Gaerloyw, wedi’i wneud â theils gwern, a llawr ystafell fwyta Brenhines Iorddonen â derw Cymreig, lle roedd yn rhaid i bob teil fod â chalon y goeden ynddi. Defnyddiwyd teils gwern hecsagonal yn Amgueddfa Stêm Kewbridge yn Llundain, a defnyddiwyd pefrwydd yng nghyntedd BSW yn yr Alban. Yn fwy diweddar yn 2014, defnyddiwyd 50,000 o deils derw ar gyfer y llawr yn siop Selfridges yn Llundain.