Adnoddau Coetir

Adnoddau Coetir

project-summary-woodland-resource-1

Mae coed yn gorchuddio bron i 14% o’r arwynebedd tir yng Nghymru (284,000 hectar). O hyn, mae 128,000 hectar yn goetiroedd llydanddail, sydd dan berchnogaeth y sector preifat yn bennaf. Mae tua 30,000 hectar o hyn yn goetir hynafol lled-naturiol sy’n cynhyrchu rhyw 30,000 metr ciwbig o bren y flwyddyn.

Fel rhan o Brosiect Cadwyn Gyflenwi Graen Pen, roedd angen cael gwell dealltwriaeth o swm posibl y pren a allai fynd i mewn i’r farchnad lloriau graen pen. Trwy broses rheoli coetir yn dda, dygwyd sylw at y posibilrwydd y gallai gwaith teneuo cyntaf ac ail llawer o rywogaethau ddarparu deunydd priodol ar gyfer cynhyrchion teils a choblau graen pen. Gallai hyn ychwanegu gwerth sylweddol at y pren ac annog y perchennog coetir i’w reoli’n well. Yn ddiddorol ddigon, yn ystod cyfnod y prosiect, fe dyfodd y farchnad coed tân yn ddramatig ym Mhrydain, gan ddylanwadu ar y pris am bren ar ochr y ffordd.

Comisiynwyd Swyddog Coed Cymru, Mike Richards, yn 2010 i wneud mesuriad o ddetholiad o 26 safle coetir ym Mhowys. Safleoedd coed pren caled brodorol cymysg ar eu sefyll oedd y rhain, yn cwmpasu 212.77 hectar. Yn sgil hyn, roedd Mike a’i gydweithwyr yn gallu datblygu dull o wneud arolwg o goetiroedd cyn eu teneuo a chyfrifo’n rhesymol fanwl gywir swm y pren y gellid ei dynnu i fynd i mewn i’r farchnad lloriau graen pen.

Ystyriwyd tri maint boncyffion pren caled yn y prosiect hwn:

  1. Boncyffion byr, bach eu dimensiwn ar gyfer teils lloriau graen pen – diamedr o 150mm i 300mm a rhwng 1 metr a 2 fetr o hyd cyn plygiadau.
  2. Gweddillion boncyffion llifio safonol ar gyfer dodrefn a saernïaeth – diamedr o 300mm a mwy.
  3. Coed mwynion ar gyfer y farchnad ffensio a choed tân – diamedr o 150mm a llai.

Yn ei adroddiad cryno, mae Mike Richards yn dweud:-

“Bu’r astudiaeth yn ymchwilio i ddulliau a ddefnyddir i amcangyfrif y coed sydd ar eu sefyll, a rhagweld symiau’r boncyffion sy’n debygol o ddod o’r cnwd coed ar eu sefyll.

Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod cronfeydd pren caled sy’n addas ar gyfer cynhyrchion graen pen yn bresennol mewn coetiroedd ar hyd a lled Powys.

O’r 69ha a archwiliwyd, yr amcangyfrif oedd bod yna 17576m3 o goed ar eu sefyll, sy’n rhoi swm cyfartalog ar eu sefyll o 255m3/ha. Aseswyd y swm hwn i weld a fyddai’n addas ar gyfer marchnadoedd penodol sy’n defnyddio pren caled bach ei ddimensiwn.

O’r swm hwn, amcangyfrifir y gallai 39%, (6867m3 neu 100m3/ha) fod yn addas i’w ddefnyddio i weithgynhyrchu cynhyrchion graen pen, bod 25% (4464m3 neu 64m3/ha) yn ddeunydd boncyffion llifio sy’n darparu pren ychwanegol sy’n addas ar gyfer y marchnadoedd saernïaeth a chrefftau, a bod 36% (6245m3 neu 91m3/ha) yn weddillion a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer coed tân.

Mae swm y deunydd sy’n cael ei gynhyrchu’n gynaliadwy bob blwyddyn ac sy’n addas ar gyfer cynhyrchion graen pen yn cyfateb i ryw 1.6m3/ha y flwyddyn, wedi’i seilio ar gynyddiad pren blynyddol o 4m3/ha. Mae’r ffigyrau’n awgrymu y gallai un coetir sy’n cyfateb i’r sampl o 69ha gynnal cynhyrchiad blynyddol o ryw 110m3 o bren sy’n addas ar gyfer proses weithgynhyrchu graen pen.

Ar sail ffigyrau’r arolwg, mae gwaith teneuo nodweddiadol sy’n torri tua 20% o’r coed ar eu sefyll mewn un gweithrediad yn cynhyrchu tua 20m3/ha o ddeunydd graen pen, 13m3/ha o foncyffion llifio, a 18m3/ha o weddillion, ar sail swm cyfartalog o goed ar eu sefyll o 255m3/ha.

Bydd safleoedd coed pren caled ar eu sefyll sydd wedi’u rheoli’n dda yn cynhyrchu mwy o bren ar gyfer deunydd sy’n ddefnyddiol ar gyfer boncyffion llifio. Mae safleoedd coed ar eu sefyll sy’n hygyrch yn debygol o gynhyrchu lefelau incwm uwch na’r rheiny sy’n anhygyrch.”

I gael copi o Adroddiad Mesuriad Cadwyn Gyflenwi Graen Pen, cysylltwch â Coed Cymru endgrain@coedcymru.org.uk