Portffolio

Ramp Coblau wedi'u Deifio, Pafiliwn Coed Cymru

Deunydd: Coblau Llarwydd wedi’u deifio, 75mm x 90mm x 70mm o drwch o Wentwood Timber Centre www.wentwoodtimbercentre.co.uk Wedi’u gludio ar is-haen llarwydd gyda bitwmen a sgriwiau.

Parhad yw hyn o’r gwaith a oedd yn edrych ar wella nodweddion gwrthlithro coblau, ar y cyd â TRADA www.trada.co.uk. Mae’r ramp, sy’n rhoi mynediad i bobl anabl, wedi’i osod mewn safle parhaol ym mhafiliwn Coed Cymru, maes Sioe Frenhinol Cymru, a chaiff ei asesu dros y cwpl o flynyddoedd nesaf. Mae crynodeb o ganlyniadau’r prawf gan TRADA a oedd yn edrych ar wella nodweddion gwrthlithro trwy ddeifio i’w weld ar y dudalen Ymchwil.