Rhywogaeth Pren: Poplys
Gwnaed y panel fel darn arddangos ar gyfer pafiliwn Coed Cymru ym maes Sioe Frenhinol Cymru. Pan roddwyd poplys a ffawydd ar brawf ym Mhrifysgol Salford, gwelwyd bod ganddyn nhw nodweddion amsugno sŵn da trwy arwyneb y graen pen. Defnyddiwyd deunydd insiwleiddio cnu thermol ar y cefn, ac mae hwn hefyd yn amsugno sŵn yn dda. Arddangosfa oedd hon i ddangos y potensial fel cynnyrch.