Sychu

Sychu

project-summary-drying-1

Mae sychu’r teils yn gallu bod yn un o’r prosesau mwyaf anodd i’w gael yn iawn. Oherwydd natur y prosiect, sy’n defnyddio boncyffion bach eu diamedr, mae craidd y goeden yn aros yng nghanol y deilsen. Mae’r cyfluniad hwn o’r pren yn golygu ei fod yn hynod dueddol o hollti, o ymyl y deilsen i’r craidd. Mae hyn oherwydd y diriannau sy’n digwydd yn y deilsen os yw’n cael ei sychu’n rhy gyflym. Mae rhai rhywogaethau’n achosi mwy o broblemau nag eraill; derw a ffawydd yw’r gwaethaf. Fe edrychodd y prosiect ar ddau ffurf ar sychu. Roedd y cyntaf yn defnyddio Odyn Gwresogi ac Awyru ac roedd yr ail yn defnyddio Ffwrn Trin â Gwres. Y gofyn yn y ddau achos oedd cael cynnwys lleithder yn y teils i lawr i rhwng 8% a 10%, sy’n ofynnol ar gyfer lloriau pren modern dan do, gyda chyn lleied o golled â phosibl oherwydd hollti tangiadol yn y deilsen graen pen. Defnyddiwyd mesurydd lleithder i fesur y cynnwys lleithder.

Pan ddefnyddir odyn i sychu, mae angen aersychu’r teils nes bod yna lai nag 20% o gynnwys lleithder. Oherwydd natur y deilsen gyda’i dwy wyneb graen pen, mae’n gallu sychu’n gyflym iawn. Mae’n well cadw’r teils sy’n sychu allan o olau uniongyrchol yr haul ac ni ddylai fod gormod o symudiad aer o’u hamgylch. Mae pren derw a ffawydd yn arbennig o agored i niwed. Yna, gosodwyd y rhain ar reseli arbennig, sef yr allwedd i atal hollti tangiadol, cyn eu gosod yn yr odyn. Ar gyfartaledd, mae ffwrn metr ciwbig o faint yn gallu cymryd 1300 o deils diaddurn (115mm x 115mm x 15mm). Mae’r odyn Gwresogi ac Awyru’n rhedeg trwy wresogi gofod mewnol y blwch hyd at 30 gradd C a chylchredeg yr aer o amgylch a thrwy’r pren â chyfres o ffaniau.

Gwybodaeth fanwl am yr odyn.

Pan roedd yr odyn wedi’i stacio’n iawn ac roedd y tymheredd a’r gwlybaniaeth perthynol wedi’u gosod i gyfateb i gynnwys lleithder gofynnol y teils sych, fe gymerodd 10 diwrnod ar gyfartaledd i’w sychu pan roedd y cynnwys lleithder yn 20% ar y dechrau.

Prynwyd ffwrn Trin â Gwres â siambr metr ciwbig i dreialu sychu teils graen pen yn 2010. Mae’r ffwrn hon yn twymo i hyd at 190°C gyda chyflenwad parhaus o stêm yn cael ei bwmpio i mewn iddi a’i gylchreded o amgylch a thrwy’r pentwr pren yn barhaus. Mae’n broses ddrytach na sychu mewn odyn oherwydd swm y trydan y mae’n ei ddefnyddio i wresogi’r siambr. Fodd bynnag, mae’r amseroedd sychu byr o ddeg awr ar gyfartaledd yn gwneud iawn am hyn. Staciwyd y teils diaddurn gwyrdd ar reseli dur galfanedig. Mae’n hanfodol rhoi’r pren trwy’r broses sylfaenol o groeslifio’r plociau ac yna’u gosod ar y rheseli sychu pwrpasol mor gyflym â phosibl. Mae oedi’n gallu achosi i ben y plociau hollti, marciau ffwng yn y teils diaddurn sydd wedi’u croeslifio, a hollti rheiddiol.

Mae’r tymheredd yn cael ei gynyddu i 120°C a’i gadw ar yr un lefel am awr cyn ei gynyddu i 190°C a’i gadw ar y lefel honno am sawl awr. Po hiraf y cedwir y tymheredd ar 190°C, tywyllaf oll yw’r teils.

Dyma oedd y manteision a nodwyd o’r broses hon:

  1. Y gallu i dywyllu’r teils fesul cam i gael lliw moca cyfoethog. Mae’r teils yn gallu edrych fel tîc neu fahogani.
  2. Nid yw’r pren yn gallu ailamsugno lleithder ar ôl ei drin, fel y byddai wedi gallu ei wneud cyn ei drin, sy’n gwneud symudiad yn llai tebygol sydd o fudd mawr i brennau fel ffawydd.
  3. Yn ei gwneud hi’n haws eu peiriannu a’u gorffen.
  4. Gallu troi stoc rownd yn gyflym.
  5. Fel yn achos sychu mewn odyn, mae’r rheseli sychu sydd wedi’u datblygu’n allweddol i beidio â chael rhyw lawer o wastraff trwy hollti tangiadol, ar 7% ar y mwyaf. Fodd bynnag, roedd y ganran hon yn uwch, ar ryw 15%, yn achos derw a ffawydd.