Peiriannu

Peiriannu

project-summary-image-4

Mae peiriannu teils diaddurn graen pen bob amser wedi bod yn broses hir sy’n galw am naw gweithred i’r peirianwyr eu cwblhau. Mae maint bach y teils graen pen yn un rheswm sylweddol am hyn. Mae’r mwyafrif o beiriannau torri a sandio wedi’u dylunio i dderbyn pren graen ochr sy’n hirach na 300mm yn unig, oherwydd rhesymau diogelwch.

Gwnaeth y rhan hon o’r prosiect ymchwilio i’r potensial i wella mewnbwn fesul uned o deils graen pen yn ystod y cyfnod gweithgynhyrchu, a dichonoldeb cwtogi ar y gost fesul uned gan ddefnyddio datrysiadau peiriannu gwell.

Penodwyd Assystems Engineering UK i fod yn beiriannwr y broses yn 2009. Ei rôl oedd archwilio, datblygu, adeiladu ac adrodd ar jig llifio awtomataidd mewn partneriaeth â Coed Cymru a’r gweithgynhyrchwr deunydd llorio, Woods of Wales, sef partner preifat y prosiect.

Fe edrychodd yr ymchwil amlinellol ar ddatblygu jig awtomataidd y gellid ei osod ar beiriannau gwaith coed safonol. Fe edrychodd y profion cychwynnol ar ddefnyddio llafnau a mecanweithiau cydio amrywiol i lifio’r teils. Penderfynwyd mai llafnau llifio crwn oedd y rhai mwyaf addas i’r dasg gan eu bod nhw’n llifio’n fanwl gywir ac yn lân, yn enwedig ar draws y graen.

Y deilliannau yr anelwyd amdanyn nhw wrth ddatblygu’r jig llifio ac wrth redeg treialon oedd asesu dichonoldeb:

  1. Gwneud jig y gellid ei osod ar beiriannau gwaith coed safonol. Yn yr achos hwn, llif-fwrdd Sedgwick TA450 a gwerthydwr Sedgwick SM10
  2. Llifio’r ddau wyneb yn wastad i drwch penodol (12mm ar gyfartaledd) a naddu pob un o’r pedair ochr yn sgwâr
  3. Y gallu i un person ei weithredu
  4. Llifio 1200 o deils yr awr
  5. Maint torri teils safonol – 100mm x 100mm x 12mm a – 150mm x 150mm x 12mm

Gwnaed jig o bren i ddechrau, a’i roi ar brawf yn Coed Cymru. Yna, rhoddwyd y data i Assystems a ganiataodd i’r peirianwyr ddeall lle roedd cryfderau a gwendidau’r broses. Fe ddarparodd hyn sail ar gyfer dyluniad terfynol y jig cyn ei gomisiynu a’i weithgynhyrchu. Roedd y cam hwn o’r gwaith ymchwil a datblygu, gyda’r partner preifat, Coed Cymru a pheirianwyr y broses yn cydweithio, yn ganolog i ddod i gasgliad ynglŷn â’r datrysiad terfynol gorau. Gwnaeth y bartneriaeth fanteisio’n fawr ar wybodaeth arbenigol y sectorau preifat a chyhoeddus fel ei gilydd.

Cynhyrchwyd y jig gan Colin Cooper Engineering yn Nhre’r-Llai, Powys a Willpower Electrical Limited yn y Drenewydd, Powys. Cynhaliwyd treialon amser a symud ar y jig yng ngweithdai Coed Cymru yn Nhregynon, a dangoswyd bod modd cyflawni pob un o’r deilliannau targed. Gwnaeth Assystems Engineering UK gynhyrchu adroddiad a darluniau gweithgynhyrchu ac mae’r rhain ar gael ar gais oddi wrth Coed Cymru.