Croeslifio

Croeslifio

project-summary-cross-cutting-1

Defnyddiwyd nifer o beiriannau i dreialu croeslifio’r plociau i wneud teils diaddurn neu goblau cyn eu sychu. Mae pob un o’r llifiau sydd wedi’u rhestru isod yn gallu croeslifio plociau’n dda, ond maen nhw’n amrywio o ran y swm y maen nhw’n gallu eu llifio, o ran cyflymder ac o ran cost. 15mm oedd y trwch cyfartalog a ddefnyddiwyd wrth dorri teil ddiaddurn werdd cyn y broses sychu. Mae hyn yn gallu amrywio gan ddibynnu ar y cynnyrch teil gorffenedig gofynnol.

  1. Llif Groeslifio Fawr Wadkin. Mae hon yn torri’n dda ond mae angen bwydo’r plocyn â llaw ar ôl pob toriad, sy’n cymryd amser a hefyd, ar ôl nifer o oriau’n gweithio, mae’n flinedig iawn i’r peiriannwr. Gan ddibynnu ar y gweithredwr, treuliwyd 4.5 eiliad ar gyfartaledd ar bob teilsen.
  2. Croeslifio gan ddefnyddio’r cludwr symudol ar lif-fwrdd Sedgwick TA450 (Cost tua £3000). Roedd hyn yn gweithio’n dda ond eto roedd angen bwydo’r plocyn â llaw ac roedd y cludwr yn symud ar gyfer pob toriad. Eto, gan ddibynnu ar y gweithredwr, treuliwyd 4 eiliad ar gyfartaledd ar bob teilsen.
  3. Llif croeslifio ‘codi i fyny’ gyda dyfais stopio awtomataidd (mae prisiau’n amrywio’n fawr gan ddibynnu ar faint y peiriant). Peiriant croeslifio cwbl awtomataidd yw hwn, gyda’r llif gron wedi’i gosod o dan wely’r bwrdd. Mae’r plocyn yn cael ei symud i’w le â chymorth ôl-stop awtomataidd sydd wedi’i raglennu ymlaen llaw gan y gweithredwr i siyntio’r pren ymlaen i’r safle gofynnol. Unwaith y mae’r pren yn ei le, mae’n cael ei glampio ac mae’r llif gron yn codi i’w dorri i’r hyd gofynnol. Os oes modd stacio plociau ochr yn ochr, yna mae modd dyblu nifer y teils y mae’r uned yn gallu eu cynhyrchu i un deilsen bob 3 eiliad.
  4. Llif Blociau Dro. Datblygwyd y peiriant hwn i dorri blociau ar gyfer paledi, ac mae’n costio rhyw £18,000 yn newydd. Peiriant syml, manwl gywir a chyflym iawn sy’n dal y plociau mewn carwsél crwn. Mae’r carwsél hwn yn troi gan ddal y plociau’n dynn a’u bwydo trwy lif gron fawr sydd wedi’i gosod y tu mewn i’r peiriant. Prynwyd Llif Blociau ail-law o Armstrong Engineering yn Cumbria a’i threialu ar gyfer y prosiect. Er iddi dorri’n dda ac yn gyflym, ar 1.5 eiliad y deilsen ar gyfartaledd, roedd maint y pren y gallai ei gymryd yn cyfyngu arni.